Post by Tîm Ysgolion a Cholegau PDC
32 followers
Mae hynny'n cloi ein seremoni Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC. Llongyfarchiadau i'n henillwyr a'n henwebeion, a diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth enwebiad! Ein henillwyr: 🏆Melissa Wylaswn o Goleg Caerdydd a’r Fro am Gefnogi Dilyniant i Addysg Uwch. 🏆Kane Amos o Goleg Catholig Dewi Sant am Gymorth Bugeiliol a Lles Rhagorol. 🏆Tina Bryant o Ysgol Cil-y-Coed am Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn. 🏆Sharon Westhead o Archbishop Blanch CofE Sixth Form fel Hyrwyddwr dros Ehangu Cyfranogiad. 🏆Cafodd Darren Church o Goleg Caerwysg Canmoliaeth Uchel hefyd. Roeddem yn falch iawn o dderbyn cymaint o enwebiadau ar draws y pedwar categori o ysgolion a cholegau o bob rhan o'r DU. Mae'n wych bod eich cydweithwyr a'ch athrawon wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ac wedi’ch ysbrydoli chi gymaint. Gwelwn ni chi'r flwyddyn nesaf! #GWOBRAUATHRAWONACHYNGHORWYRPDC2026