Post by Sefydliad Dysgu a Gwaith | Learning and Work Institute
184 followers
📣 Adroddiad newydd: 📈 Mae mwy o oedolion yng Nghymru yn dysgu – ond pwy sy’n cael eu gadael ar ôl? Mae newyddion cadarnhaol yn ein canfyddiadau o’r Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu Cymru diweddaraf: mae 47% o oedolion wedi cymryd rhan mewn dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf, gan guro cyfartaledd y DU o 42%. Fodd bynnag mae diffyg cydraddoldeb yn parhau ar gyfer y rhai sydd fwyaf o angen dysgu. Er fod gweithwyr llawn-amser ddwywaith mor debyg o gynyddu eu sgiliau, mae oedolion hŷn, rhai mewn swyddi gyda llai o sicrwydd a’r economaidd anweithgar yn dal i golli allan. 📣Os ydym eisiau i ddysgu gydol oes yrru twf economaidd a symudedd cymdeithasol go iawn, ni all fod o fudd yn unig i’r rhai sydd eisoes yn freintiedig. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl. 📑Mae’r adroddiad llawn ar gael ar ein gwefan: https://lnkd.in/e5QVSSM6 📑Darllenwch y blog diweddaraf ar yr ymchwil gan Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru Dysgu a Gwaith: https://lnkd.in/ecGC-2uk Pa gamau a gredwch chi sydd angen i ni eu cymryd i wneud addysg oedolion yn fwy cynhwysol? 👇 Medr