Post by RFCA for Wales

1,165 followers

Milwyr wrth gefn gwych sy’n cael ein sylw ni heddiw. Dewch i gwrdd â’r Corporal dros dro Katie Payne sy’n gwasanaethu fel aelod wrth gefn o Heddlu’r Awyrlu Brenhinol tra ei bod hefyd yn gweithio’n llawn amser fel Swyddog gyda Heddlu Metropolitan Llundain. Mae ynghlwm wrth Sgwadron 614 Sir Morgannwg yng Nghaerdydd, ac mae’n gweithredu’n rheolaidd o RAF Brize Norton gyda Sgwadron 7 yr Heddlu. Mae ei rôl yn cwmpasu diogeledd trafnidiaeth awyr, gorfodi’r gyfraith, a chadw canolfannau’r lluoedd yn ddiogel - gan sicrhau bod personél a gweithrediadau yn aros yn ddiogel ym mhedwar ban byd. I Katie, yr agwedd orau ar wasanaethu yw’r cyfeillgarwch. Mae rhannu profiadau a’r cysylltiadau cryf sy’n cael eu meithrin gyda chydweithwyr yn creu ymdeimlad o berthyn sy’n para ymhell y tu hwnt i’r swydd.

Post content

Video Content