Post by Prifysgol Wrecsam
421 followers
Mae un o Uwch Ddarlithwyr Nyrsio Prifysgol Wrecsam wedi ennill gwobr sy’n cydnabod ei chyfraniad i gefnogi myfyrwyr yn yr iaith Gymraeg. Derbyniodd Awel Wynne-Williams y wobr gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn seremoni yng Nghaerdydd i anrhydeddu addysgwyr gorau’r wlad yn yr iaith Gymraeg. Enwebwyd Awel, sy’n darlithio mewn nyrsio plant yn Wrecsam, ac sydd â phrofiad clinigol blaenorol, ar gyfer Gwobr Dathlu'r Darlithydd gan un o’i myfyrwyr, a’i canmolodd am ei thosturi, ei hymagwedd a’i chefnogaeth yn ystod cyfnod anodd. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliad allweddol sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau a phrifysgolion ledled Cymru, gan fuddsoddi a chefnogi darpariaeth, adnoddau a staff i ehangu cyfleoedd dysgu drwy’r Gymraeg. Darllen Mwy https://bit.ly/4aCFHTF