Post by Prifysgol De Cymru
312 followers
Llongyfarchiadau i Dominic Henson, sydd wedi ennill anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei BEng mewn Peirianneg Sifil. Mae’r radd uchaf yn llwyddiant diweddaraf i'r gŵr 25 mlwydd oed o Lanilltud Fawr, sydd wedi bod yn cydbwyso swydd ac astudio wrth weithio tuag at ei radd. Yn rhan o'r tîm Pontydd a Pheirianneg Sifil yn AtkinsRéalis, gwmni ymgynghorol peirianneg fyd-eang, cwblhaodd Dominic gymwysterau peirianneg sifil gynharach yng Ngholeg Gwent (Coleg Gwent) hefel rhan o'i brentisiaeth cyn ymuno â'r Brifysgol yn 2023 i astudio. Yn ystod ei astudiaeth, wnaeth Dominic hefyd ennill rhai anrhydeddau arwyddocaol eraill. Yn 2022, cafodd ei enwi'n Brentis y Flwyddyn gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil (Institution of Civil Engineers (ICE)), anrhydedd a enillodd eto’r flwyddyn ganlynol. Y flwyddyn honno, derbyniodd Dominic Ysgoloriaeth QUEST o'r ICE, a sefydlwyd i annog pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg sifil. Yna, yn 2024, enwyd Dominic yn Llysgennad STEM ICE y Flwyddyn i Gymru, sy'n cael ei gyflwyno i'r rhai sydd wedi dangos ymrwymiad rhagorol i beirianneg sifil trwy roi eu hamser a'u hymdrech i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Y flwyddyn honno, cafodd Dominic ganmoliaeth uchel yng ngwobrau Generation for Change (G4C) Cymru fel Prentis y Flwyddyn. Mae G4C yn hyrwyddo'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol adeiladu yng Nghymru. Bellach yn fyfyriwr graddedig, mae Dominic yn bwriadu datblygu yn ei yrfa a gwella ei sgiliau fel rheolwr prosiect a pheiriannydd. #GraddioPDC