Post by Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gog. Cymru/Office of the Police & Crime Commissioner N. Wales
504 followers
*Scroll for English* Dyddiadur Dunbobbin Mae wedi bod yn wythnos brysur arall, wrth gyfarfod pobl a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn ledled Gogledd Cymru. • Mi roeddwn i’n hynod o falch cael mynd i ddigwyddiad Balchder Ysgolion Sir y Fflint yn Ysgol Castell Alun yn yr Hôb. Mi roedd yn ddathliad o gynhwysiant, amrywiaeth a phwysigrwydd creu amgylchfydoedd saff a chynorthwyol ar gyfer pobl ifanc. • Llongyfarchiadau i bawb gymerodd rhan yng Ngraddio Arweinwyr Ifanc Clwb Pêl-droed Wrecsam yn Neuadd Maes Gwyn, Wrecsam. Mi roedd yn ysbrydoledig gweld cymaint o bobl ifanc yn cael cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad, arweinyddiaeth a chyfraniad i’w cymunedau nhw. • Mi gymerais rhan ym Mwrdd Partneriaeth Plismona Cymru, gan weithio ynghyd â phartneriaid er mwyn trafod materion allweddol sy’n effeithio ar blismona a diogelwch cyhoeddus ar draws Cymru. • Yn Llangefni, mi ymunais i efo cyfarfod panel CELS Cymru, fel rhan o brosiect bwysig sy’n helpu pobl ifanc fregus ar Ynys Môn. • Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, mi wnes i gyfarfod efo swyddogion ym Mostyn, Sir y Fflint, er mwyn trafod gwaith sydd ar y gwell er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella ansawdd bywyd y preswylwyr lleol. ********* Dunbobbin's Diary It's been another busy week meeting people and organisations making a real difference across North Wales. • I was delighted to attend Flintshire Schools Pride at Castell Alun School, Hope, celebrating inclusion, diversity and the importance of creating safe and supportive environments for young people. • Congratulations to everyone who took part in the Wrexham AFC Foundation Young Leaders Graduation at Maes Gwyn Hall, Wrexham. It was inspiring to see so many young people recognised for their commitment, leadership and contribution to their communities. • I also participated in a Policing Partnership Board for Wales meeting, working alongside partners to discuss key issues affecting policing and public safety across Wales. • In Llangefni, I joined a CELS Cymru panel meeting as part of an important project supporting vulnerable young people on Anglesey. • As part of ASB Awareness Week, I met officers in Mostyn, Flintshire to discuss ongoing work to reduce anti-social behaviour and improve the quality of life for local residents.
Video Content