Post by Health Education and Improvement Wales (HEIW)/Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
14,680 followers
Rydym yn cynorthwyo’r gweithlu optometreg yng Nghymru i gyfrannu mwy o ran atal problemau ac ymyrraeth gynnar trwy adnoddau dysgu ymarferol a chyfleoedd datblygu arweinyddiaeth. https://lnkd.in/egygfFPU Ar gael ar Y Tŷ Dysgu, platfform e-ddysgu cenedlaethol GIG Cymru ,mae'r adnoddau hyn yn helpu ymarferwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer hybu iechyd, darparu ymyriadau byr a chyfeirio cleifion at wasanaethau priodol. Ar hyn o bryd mae'r pynciau yn cynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth o ddementia, gyda modiwlau pellach ar ffactorau risg diabetes, atal problemau a rheoli golwg byr yn cael eu datblygu. Drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder ar draws y proffesiwn, rydym yn helpu i greu model gofal mwy rhagweithiol sy'n cynorthwyo gwell canlyniadau iechyd ac yn gwella mynediad at wasanaethau ledled Cymru. Darllenwch ein newyddion diweddaraf i ddysgu mwy.