Post by Geraint Hughes

Cadeirydd/Chair ac Ymgynghorydd Arweiniol/Lead Consultant yn Lafan, Cyfarwyddwr/Chair Director - Bwydydd Madryn Foods

O fod wedi ymlwybro ar hyd yr A487 dwy waith mewn tridiau wythnos yma, dw i wedi cael digon o amser i "ddarllen" defnydd tir yng Nghymru fel ag y mae heddiw... beth wnaeth fy nhrawo? Does dim arwydd o gwbl bod sicrwydd bwyd (food security) yn bwysig i ni fel cenedl. Arwyddion cynyddol o effeithiau tywydd eithafol (tirlithriadau, ponciau yn llosgi...) a prin dim arwydd o waith addasu i hynny. Dal ddim yn gweld llawer o gynlluniau rheoli graddfa tirwedd. Rhedyn yn cynyddu ar lethrau a ffriddoedd - da i ddim i ni fel pobl na natur. Y cyfoeth o amrywiol dirweddau sydd gennym mewn gwlad fach fawr! Ac i ychwanegu at hynny, yr amrywiol ofynion sydd ein tirweddau. Tybed os ydach chi'n dragwyddol ddarllen y tirwedd pan yn teithio? Rydym wrthi ar hyn o bryd yn RECRIWTIO Ymgynghorydd Arweiniol Defnydd Tir i ymuno gyda ni yn Lafan. Gweler https://lafan.cymru/swyddi Ymgynghori Lafan Consulting John Owen Zoe Pritchard

Post content