Post by Gareth Evans-Jones

Darlithydd Athroniaeth a Chrefydd (Bangor), cyd-gyfarwyddwr Canolfan Add Gref Cymru, a llenor / Philosophy & Religion lecturer (Bangor), co-director of the National Centre of RE for Wales & writer.

(This is a bilingual post) Roedd yn bleser gwirioneddol ymuno â Jennifer Jones a'r Parch. Jill Harries ar Dros Ginio, BBC Radio Cymru (30 Mehefin) i drafod y defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial (DA) wrth baratoi pregethau. Buom yn ystyried sut y gall DA fod yn gymorth gwerthfawr ar gyfer ymchwil, cynllunio a datblygu syniadau, ond hefyd y cwestiynau pwysig y mae'n eu codi ynghylch dilysrwydd, dirnadaeth ddiwinyddol, a'r hyn a ddylai aros yn greiddiol ddynol o fewn y weinidogaeth. Roedd yn braf cael cyfeirio at rifyn arbennig y Cylchgrawn CGM ar DA, gan gynnwys fy erthygl yn holi a fuasai'n bosib i DA weithredu fel arweinydd ysbrydol. Cyfeiriais hefyd at ymchwil ddiweddar yn y cyfnodolyn, Practical Theology, sy'n awgrymu y dylai defnydd cyfrifol a beirniadol o DA gael ei gynnwys fel rhan o hyfforddiant gweinidogion. Diolch yn fawr Dros Ginio am y cyfle ac i Jennifer a Jill am y sgwrs ddifyr! --- It was a pleasure to join Jennifer Jones and Rev Jill Harries on Dros Ginio, BBC Radio Cymru (30 June) to discuss the growing use of AI in sermon preparation. Our conversation explored how AI can be a valuable support tool in helping with research, structure and overcoming writer's block, while also raising important questions about authenticity, theological discernment, and what should remain distinctly human in preaching. It was excellent to be able to mention the recent RVE Magazine special issue on AI, including my article which asks could AI ever become a spiritual guide. We also discussed recent research published in Practical Theology on AI use among six Church of Sweden preachers, which argues that thoughtful, critical use of AI should form part of ministerial training. As AI becomes increasingly embedded in society, these conversations are only becoming more important. Many thanks to Jennifer and Jill for such an engaging discussion, and to Dros Ginio for the opportunity! RVE magazine: AI: https://lnkd.in/ew2RjGEF Practical Theology link: https://lnkd.in/ex93BPa5 Dros Ginio: https://lnkd.in/evN4rCqJ Prifysgol Bangor Bangor University Gwasanaeth Dysgu Digidol

Post contentPost content