Post by Flat Fee Recruiter
5,691 followers
Swyddog Gwasanaethau Cwsmer https://bit.ly/FFR_9545 £19,560 - £21,800 y flwyddyn (pro rata)– Parhaol – Rhan amser 25 awr yr wythnos Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Byddwch yn Cyfrannu tuag at y dull o weithio ‘un tîm’ ar draws Adra gan roi gwasanaeth cyson i denantiaid a chymorth i gyd-weithwyr ar draws y sefydliad yn ôl y gofyn, drwy gadw at bolisïau a gweithdrefnau Adra a chyfrannu at gynlluniau ac amcanion cyflawni gwasanaeth. Byddwch yn sicrhau eich bod yn darparu gwasanaethau gwych i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth eraill a chyrraedd targedau perfformio sy’n ymwneud â’r maes gwaith yn cael eu cwrdd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Dyddiad Cau: Hanner Dydd 26 Tachwedd 2020 https://bit.ly/FFR_9545