Post by NIHR Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT

21 followers

🎉Ymweliad y NIHR yn adnabod CYBI RhCT fel enghraifft benigamp o newid diwylliant mewn llywodraeth leol Roedden ni'n wrth ein boddau i groesawu cydweithwyr o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i Rondda Cynon Taf ddoe ar gyfer ein hymweliad safle Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI). Rhoddodd yr ymweliad cyfle i arddangos y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud gyda'n partneriaid ar draws llywodraeth leol, academia, iechyd, y trydydd sector a'n cymunedau yn adeiladu diwylliant cryfach o wneud penderfyniadau wedi'u llywio gan dystiolaeth. Derbynion ni adborth hynod o galonogol. Aroleuon nhw'r brwdfrydedd ac ymrwymiad a ddangoswyd gan ein cydweithwyr a phartneriaid trwy'r dydd a chanmolon nhw'r ffordd ein bod ni wedi ymwreiddio ymchwil a thystiolaeth i mewn i strwythurau, prosesau a diwylliant y Cyngor. Cydnabyddon nhw ein gallu i gyfleu'n glir y mecanweithiau rydyn ni wedi datblygu, sy wedi galluogi newid sefydliadol ac effaith cynaliadwy - rhywbeth fe deimlon nhw oedd o werth i'r gymuned CYBI ehangach. Hefyd, canmolon nhw ehangder yr ymgysylltiad ar draws ein rhaglen, gan gynnwys: ✅ Ymglymiad cymunedol a chyd-gynhyrchiant ✅ Amrywiaeth ein Grŵp Gwaith Tlodi Plant ✅ Ymgysylltiad ag Aelodau Etholedig ✅ Ymrwymiad ar y cyd i newid diwylliant hir dymor ar draws y Cyngor a thu hwnt Un sylw a darodd tant gyda ni oedd: "Mae gyda ni lawer i ddysgu oddi wrthoch chi am sut rydych chi wedi gwneud pethau yn Rhondda Cynon Taf a sut rydych chi'n gallu cyfleu hynny." Wrth i ni symud i adeg nesaf ein taith, rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid ar draws rhwydwaith y CYBI a thu hwnt er mwyn rhannu dysgu am yr hyn sy'n galluogi adeiladu gallu ymchwil, newid diwylliant a gwneud polisïau wedi'u llywio gan dystiolaeth yn llywodraeth leol. Diolch o galon i bawb wnaeth cyfrannu at yr ymweliad ac, yn bwysicach fyth, i waith ein CYBI RhCT a chydweithredwyr - Prifysgol Caerdydd, CPCC, DECIPHer, BIP CTM, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Interlink RCT. Dim ond gydag ymdrech, uchelgais a chydweithrediad cymaint o bobl a sefydliadau mae'r llwyddiannau hyn yn bosib. #DaliEnnill

Post content

Video Content