Post by Cardiff University's School of Healthcare Sciences
355 followers
Rydyn ni’n falch iawn bod ein tîm Bydwreigiaeth wedi derbyn Gwobr Arloesi o Safon 2026 Prif Swyddog Nyrsio Coleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dathlu ein gwaith i wneud addysg bydwreigiaeth yn fwy amrywiol, cynhwysol a diwylliannol-ddiogel, a hynny drwy ehangu mynediad at ein rhaglen i ymgorffori cynhwysiant yn y cwricwlwm a phrofiad y myfyrwyr. Rydyn ni wrth ein boddau bod yr ymdrechion hyn yn helpu i greu gweithlu bydwreigiaeth mwy cynrychiadol a chefnogi gofal mamolaeth mwy diogel a theg ar draws Cymru. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y cyflawniad gwych hwn. 👏 #PrifysgolCaerdydd #Bydwreigiaeth #Cynhwysiant #AddysgGofalIechyd