Post by Community Housing Cymru
6,427 followers
Sgwrs Anffurfiol gyda Derek Walker Bu ein Dirprwy Brif Weithredwr Clarissa Corbisiero yn trafod gyda Derek Walker The Office of the Future Generations Commissioner for Wales fel sgwrs gyntaf Un Gynhadledd Fawr. Dywedodd Derek: “Mae tai yn syflaenol i gyflawni nodau deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol.” Trafododd Clarissa a Derek sut mae gwaith atal yn golygu targedu gwreiddiau anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol. Fodd bynnag, mae yna heriau. Fel yr amlygodd Derek, dim ond tri i bedwar y cant o gyllidebau cyhoeddus sy’n cael eu neilltuo i waith atal. Mae’r dirwedd bartneriaethau’n anniben, gyda symud o wasanaeth i wasanaeth ac o brosiect i brosiect. Mae angen dull mwy cyfannol a chysylltiedig yng Nghymru tuag at greu partneriaethau. Mae angen gwell llwybrau i gymdeithasau tai gysylltu. Roedd Derek yn awyddus i bwysleisio y dylai pobl ifanc fod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol, am mai nhw fydd yn etifeddu ein cymunedau, ein hinsawdd a’n bioamrywiaeth.