Post by Coleg Gwent Cymraeg
317 followers
Tystiolaeth bod ein tiwtoriaid wirioneddol yn arbenigwyr yn eu meysydd! Dyma Louise McGibbon, Darlithydd #GwasanaethauCyhoeddus yn BGLZ a champws Brynbuga. Yn ogystal â’i swydd bob dydd, mae hi wedi gwasanaethu fel Swyddog Wrth Gefn yn y #Fyddin ers bron i 30 mlynedd fel Sarjant 🇬🇧 Ymrestrodd Louise i ddechrau â’r Signalau Brenhinol a hyfforddi mewn sawl rôl gyfathrebu sydd hefyd wedi’i galluogi i wasanaethu mewn swydd weithredol yn y DU yn ystod Rhyfel y Balcanau. Yn fwy diweddar, gweithiodd Louise i Gatrawd Hyfforddi’r Fyddin sy’n ymdrin â recriwtio a hyfforddiant arbenigol. Dyweda Louise bod ei chyfnod fel milwr wrth gefn wedi bod yn brofiad rhyfeddol ac yn un y gall ddwyn profiad ohono yn yr ystafell ddosbarth. Ymunwch â ni fis Medi: https://lnkd.in/ez7pWQC