Post by Coleg Cambria Cymraeg

109 followers

🔊 Newyddion Cambria 🔊 - Mae ein Hundeb Myfyrwyr Wedi Ennill Gwobr Undeb Coleg AU y Flwyddyn mewn Gwobrau Cenedlaethol Enwyd Undeb Myfyrwyr y coleg yn Undeb Coleg Addysg Bellach y Flwyddyn yng Ngwobrau mawreddog NUS Cymru. Mae’r wobr yn dilyn cyfnod trawsnewidiol o waith i gryfhau ymgysylltiad a chynrychiolaeth dysgwyr ar draws y sefydliad, sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain. Mae cerrig milltir allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys agor Hwb Undeb Myfyrwyr newydd ar safle Iâl yn Wrecsam ac ethol mwy na 300 o gynrychiolwyr dysgwyr. Dywedodd Deio Owen, Llywydd NUS Cymru: “Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Undebau Myfyrwyr ledled Cymru. Mae wedi bod yn wych gweld yr holl waith sy’n cael ei wneud gan y tîm yng Ngholeg Cambria eleni – yn cefnogi myfyrwyr a sicrhau eu bod wedi bod yn llais cryf yn y coleg a thu hwnt.” Mae tîm Llais Myfyrwyr wedi chwarae rhan ganolog wrth gefnogi dysgwyr drwy gydol y flwyddyn, gyda ffocws eang ar lesiant, cynhwysiant, datblygiad personol ac ymgysylltu cymunedol. Mae’r ganolfan newydd yn Iâl wedi dod yn ganolbwynt yn gyflym ar gyfer gweithgaredd a chefnogaeth i fyfyrwyr, gan ddod â chlybiau a chymdeithasau, cefnogaeth Cambria Heini a Menter, mentrau Llais Myfyrwyr, a gwasanaethau Caplaniaeth i gyd o dan un to. Mae’r lle yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn creu ardal bwrpasol lle gall myfyrwyr gysylltu, ceisio cefnogaeth ac ymgysylltu â bywyd coleg, waeth beth fo’u cefndir neu eu dull astudio. Dywedodd Mark Ryan Hughes, Cydlynydd Ymgysylltu Llais Myfyrwyr: “Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd wirioneddol i’n Hundeb Myfyrwyr. “Mewn blwyddyn yn unig, rydyn ni wedi creu lle newydd i fyfyrwyr gysylltu a chodi eu lleisiau ac wedi datblygu ffyrdd newydd i bob myfyriwr ddweud ei ddweud. Rydyn ni’n hynod falch o’r cyflawniad hwn ac yn gyffrous i barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n dysgwyr.” Dywedodd y Prif Weithredwr Yana Williams fod y wobr yn adlewyrchiad o ymrwymiad ehangach y coleg i adeiladu amgylchedd lle mae pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi. - Darllenwch y stori llawn yma: https://bit.ly/4xhsM2Z

Post content