Post by Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
243,841 followers
Caerdydd yn codi eto yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd👇 Stori lawn yn y sylwadau 👇Mae Prifysgol Caerdydd wedi gwella ei safle eto yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd, gan ddringo dau safle i 179fed yn y byd. Mae’r cynnydd hwn yn adeiladu ar gynnydd y llynedd ac yn cadarnhau safle Prifysgol Caerdydd ymhlith sefydliadau gorau’r byd. Meysydd rhagorol ym Mhrifysgol Caerdydd yw cynaliadwyedd, sydd yn safle 83 yn y byd (y 5% uchaf yn fyd-eang) am ein heffaith gymdeithasol ac amgylcheddol, a'n gweithredoedd wrth greu bodolaeth fwy cynaliadwy; a safle yn y 10% uchaf yn fyd-eang am ein llwyddiant wrth greu a chynnal partneriaethau ymchwil â sefydliadau mewn gwledydd eraill. Roedd meysydd eraill o welliant yn cynnwys enw da academaidd gyda safle yn y 10% uchaf yn y byd, a chyfeiriadau fesul cyfadran a gafodd safle yn y 25% uchaf yn fyd-eang. Dyma a ddywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae’r cynnydd bach ond parhaus hwn yn adlewyrchu gwaith caled cymuned Prifysgol Caerdydd sy’n flaengar ac sy’n newid y byd nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. “Mae ein penderfyniadau, ein cydweithrediadau a’r ymchwil rydyn ni’n dewis ei gwneud yn canolbwyntio ar y genhadaeth hon ac rwy wrth fy modd yn gweld meysydd rydyn ni'n eu blaenoriaethu, er enghraifft ein gwaith rhyngwladol a'n hymrwymiad i gynaliadwyedd, yn dod drwodd yn y data hwn.” ✨𝗚𝗮𝗹𝗹𝘄𝗰𝗵 𝗰𝗵𝗶 𝗵𝗲𝗹𝗽𝘂 𝗶 𝗹𝘂𝗻𝗶𝗼 𝗿𝗵𝗲𝘀𝘁𝗿 𝗽𝗿𝗶𝗳𝘆𝘀𝗴𝗼𝗹𝗶𝗼𝗻 𝗯𝘆𝗱-𝗲𝗮𝗻𝗴✨ Rydyn ni nawr yn gwahodd cyn-fyfyrwyr, cyflogwyr, a phartneriaid Prifysgol Caerdydd i gymryd rhan yn arolygon enw da Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2028. #PrifysgolCaerdydd #CardiffUniversity | QS Quacquarelli Symonds