Post by Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
244,100 followers
Enwi Prifysgol Caerdydd yn hyb Cymru gŵyl genedlaethol y dyniaethau👇 Stori lawn yn y sylwadau 👇 Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei dewis unwaith eto yn un o’r pum hyb blaenllaw ledled y DU er mwyn i’r cyhoedd gael dathlu ymchwil yn y dyniaethau. Digwyddiad ledled y DU yw Gŵyl Bod yn Ddynol sy’n dathlu’r ffyrdd y mae ymchwil yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, gan ein helpu i ddeall ein hunain, ein cymuned yn ogystal â'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu mewn byd cyfnewidiol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, mae'r ŵyl yn dod â’r cyhoedd yn nes at y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol drwy gynnal a chefnogi digwyddiadau cyhoeddus, ynghyd â meithrin sgiliau a chapasiti o fewn y sector addysg i ofalu bod ymgysylltiad cyhoeddus yn arloesol, yn berthnasol ac ar flaen y gad o ran yr hyn y mae prifysgolion yn ei gyflawni i’n cymunedau lleol ac ar y cyd â nhw. Bydd Bod yn Ddynol yn digwydd rhwng 5 a 14 Tachwedd 2026, sef 12fed flwyddyn yr ŵyl. Bydd cannoedd o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim ledled y DU yn cael eu cynnal i ddathlu sut mae'r dyniaethau'n gwneud gwahaniaeth i'r byd a'n bywydau. Caiff digwyddiadau eu cyflwyno gan drefnwyr ym myd addysg uwch mewn cydweithrediad â phartneriaid diwylliannol a chymunedol lleol. #PrifysgolCaerdydd #CardiffUniversity