Post by Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

244,112 followers

I lawer o bobl ifanc, gall gradd – heb sôn am yrfa yn y gyfraith – deimlo y tu hwnt i’w chyrraedd. Yn rhy aml, caiff y proffesiwn ei ystyried yn gaeedig, yn ddrud, neu’n neilltuedig i’r rhai sydd â chysylltiadau teuluol. Gwaith Ymddiriedolaeth Sutton yw newid hynny. 👇 Dolen i'r stori nodwedd lawn yn y sylwadau 👇 Ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, mae’r rhaglen Llwybrau at y Gyfraith yn cefnogi myfyrwyr talentog ysgolion a cholegau lleol i ystyried y sector cyfreithiol. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc o deuluoedd incwm isel, y rhai mewn gofal, neu’r cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol, yn helpu myfyrwyr i feithrin hyder, deall y proffesiwn, a chymryd y camau cyntaf tuag at gael gyrfa gyfreithiol bosibl. Drwy weithdai, sesiynau arweiniol, a diwrnodau blas ar waith cyflogwyr, caiff y rhai sy’n cymryd rhan brofi campws Prifysgol Caerdydd, cwrdd â staff, a chael cyngor gan raddedigion diweddar o Brifysgol Caerdydd yn uniongyrchol. Yn ddiweddar, daeth tair o’r cyn-fyfyrwyr hynny, Eleanor Parsons (LLB 2020), Genevieve Forester (LLB 2023) a Maddison Coomber (LLB 2023) yn ôl i Gaerdydd i sgwrsio â grŵp o 50 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 am eu profiadauo ymuno â byd y gyfraith a sut beth yw’r proffesiwn mewn gwirionedd. #PrifysgolCaerdydd #CardiffUniversity | Eleanor P., Genevieve Forester, Maddison Coomber

Post content