Post by Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

244,429 followers

“Rydyn ni’n byw gyda thwyllwybodaeth. Dydyn ni ddim yn mynd i’w dileu", dadleua arbenigwr byd-eang 👇 Stori lawn yn y sylwadau 👇 Mae twyllwybodaeth a gyfathrebir gan bwerau tramor ac ar eu rhan bellach yn rhan annatod o wladwriaeth ddigidol yr oes wybodaeth, meddai arbenigwr o Brifysgol Caerdydd. Rhoddodd yr Athro Martin Innes, cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth, dystiolaeth i ddau ymchwiliad yn y DU. Arweiniwyd un ymchwiliad o'r enw Diplomyddiaeth twyllwybodaeth: Sut mae drwgweithredwyr yn ceisio tanseilio democratiaethgan y Pwyllgor Materion Tramor. Y llall oedd Adolygiad Rycroft – Adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o Wrthsefyll Dylanwad ac Ymyrraeth Ariannol Tramor yng Ngwleidyddiaeth y DU. Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o ymchwiliad y Pwyllgor Materion Tramor i ddiplomyddiaeth twyllwybodaeth yn dod i’r casgliad bod “Rwsia yn cyflwyno bygythiad clir a phresennol i’r DU, ei buddiannau tramor, a diogelwch Ewro-Atlantig”. Mae'n ychwanegu, “mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn sicrhau bod y DU a'i chynghreiriaid yn caledu eu hecosystemau gwybodaeth i'w gwneud yn darged anhreiddiadwy ac anatyniadol i ymyrraeth Rwsia”. #PrifysgolCaerdydd #CardiffUniversity

Post content