Post by Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

243,740 followers

“Cyfle unwaith mewn oes i lunio dyfodol gwell”👇 Stori lawn yn y sylwadau 👇 Mae uchelgais Prifysgol Caerdydd i gyd-greu a rhannu gwybodaeth i gyflawni byd gwell i genedlaethau’r dyfodol wedi cael hwb yn sgil penodi ei Chyfarwyddwr Academaidd Dyfodol Caerdydd cyntaf. Mae’r Athro Keri Facer, ffigwr blaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol ym maes syniadu’r dyfodol ac ymchwil, wedi cael ei phenodi i’r swydd newydd hon. Mae menter Dyfodol Caerdydd yn egluro sut i ymgorffori meddwl a gweithgareddau rhyngddisgyblaethol a chreadigol am y dyfodol yn y tymor hir ledled y Brifysgol, gan dynnu arbenigedd ac ymarfer presennol Prifysgol Caerdydd ynghyd yn y maes hwn i greu cyfleoedd newydd i wneud ymchwil, addysgu a chydweithio sy’n canolbwyntio ar y dyfodol gyda phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt. “Yn y byd sydd ohoni, mae gofyn i brifysgolion feddwl ac ymddwyn yn wahanol. Mae’r dyfodol rydyn ni’n ei wynebu yn heriol – i’n myfyrwyr ac ein cymdeithasau. Mae’n rhaid inni ddatrys sut i wynebu newid technolegol, ecolegol a chymdeithasol mewn ffyrdd sy’n creu dyfodol teg a chynaliadwy. Mae gan Brifysgolion ran hollbwysig i’w chwarae i helpu i sicrhau’r newidiadau sylweddol y bydd eu hangen er mwyn creu ffyrdd newydd o fyw,” meddai’r Athro Facer. “Dyma swydd nad oeddwn i’n gallu ei gwrthod. Mae’n gyfle unwaith mewn oes i weithio gyda phrifysgol wych i ddatblygu ymdeimlad clir ar y cyd o’r hyn y mae’n ei olygu i brifysgol flaenllaw geisio llunio dyfodol gwell gyda phartneriaid yng Nghymru a ledled y byd. “Rwy’n credu’n gryf bod gan brifysgolion gyfrifoldeb i weithio ar y cyd â’r cymunedau y maen nhw’n rhan ohonyn nhw – yn lleol ac yn fyd-eang. “Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir o ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymchwil ar y dyfodol, ond ar ben hynny mae’r strategaeth newydd yn datgan hynny’n benodol. A beth sy’n wych yw, yn ystod fy ymweliadau yng Nghaerdydd, rwy wedi dysgu bod yr ymrwymiadau hyn yn bwysig iawn i bobl ac Ysgolion y Brifysgol – nid slogan yn unig mohono.” ychwanegodd. Bydd rôl y Cyfarwyddwr Academaidd yn cynnwys rhoi arweinyddiaeth strategol i fenter newydd Dyfodol Caerdydd, gan weithio ledled y Brifysgol i ddatblygu arferion newydd sy’n annog ac yn hyrwyddo syniadu arloesol am y dyfodol ym maes ymchwil ac addysg. Dyma Feddwl am Genedlaethau’r Dyfodol. #CardiffUniversity #PrifysgolCaerdydd

Post content