Post by Betsi Cadwaladr University Health Board
19,518 followers
Ymateb i'r cyhoeddiad gweinidogol - Cymorth Perfformiad a Gwella'r GIG. Heddiw, mae Gweinidog y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd Perfformiad a Gwella'r GIG yn rhoi cymorth ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r cymorth yn cynnwys Adolygiad Arweinyddiaeth a Llywodraethu o'r sefydliad ynghyd ag arbenigedd gweithredol ychwanegol er mwyn atgyfnerthu gwelliant ar draws gofal brys a gofal mewn argyfwng, gofal wedi'i gynllunio, canser a diagnosteg. Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd: "Rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella'r GIG er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wneud gwelliannau ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Fel Bwrdd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig gofal diogel ac o ansawdd uchel ac i ddysgu o'r arbenigedd annibynnol a fydd yn helpu i atgyfnerthu ein sefydliad." https://lnkd.in/emGHVTyd