Post by Betsi Cadwaladr University Health Board

19,489 followers

Mae Russell Caldicott, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid wedi bod yn llwyddiannus o ran cael rôl newydd fel y Prif Swyddog Cyllid yn Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr a bydd yn gadael y Bwrdd Iechyd ar ddechrau Hydref 2026. Mae Russell wedi bod gyda ni am y tair blynedd ddiwethaf, gan ymuno â’r Bwrdd Iechyd yn ystod cyfnod arbennig o heriol. Er ein bod yn parhau i wynebu heriau, gwnaed cynnydd sylweddol o ran atgyfnerthu ein dulliau llywodraethu ariannol a gwella perfformiad yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae Russell wedi cyflawni rôl allweddol o ran llywio’r gwelliant hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar am ei gyfraniad sylweddol at y sefydliad. Hoffem ddiolch i Rossell am ei arweinyddiaeth a’i ymrwymiad dros y tair blynedd ddiwethaf a dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd. 🔗 https://lnkd.in/edST_Xic

Post content